faq fabula

Cwestiynau Cyffredin

Cafodd Arwyr Ancora ei gynllunio ar gyfer plant tuag 8-11 oed ac mae llawer o fechgyn a merched o’r oedran hwn wedi ei roi ar brawf – ond mae croeso i bobl o bob oed chwarae os dymunant.

Wrth greu Arwyr Ancora, roeddem yn meddwl am blant 8-11 oed ac felly mae edrychiad y gêm, nifer a lefel y geiriau sydd i’w darllen a’r math o weithgareddau wedi’u datblygu gan feddwl am yr oedran hwnnw. Dydi hynny ddim yn golygu na all plentyn iau chwarae a mwynhau’r gêm ond efallai y byddai plentyn 6 oed yn hoffi cael rhywun arall wrth law i roi help bach wrth chwarae.

Mae Arwyr Ancora’n addas ar gyfer tabledi a ffonau clyfar safon ganolig/uchel iOS (Apple) ac Android.

I gael y profiad gorau, argymhellwn chwarae Arwyr Ancora ar ddyfais glyfar ddiweddar gydag o leiaf 1GB o RAM, yn rhedeg ar y system weithredu (OS) ddiweddaraf sydd ar gael ar gyfer y ddyfais honno.

Fersiynau a argymhellir: Android 4.2 neu ddiweddarach; iOS 7 neu ddiweddarach. Ni fydd Arwyr Ancora’n gweithio ar ddyfeisiau clyfar hŷn sydd â llai nag 1GB o RAM.

Na, dim ar hyn o bryd. Mae Arwyr Ancora’n cael ei lansio fel ap i ddechrau gan fod cynifer o blant 8-11 oed yn defnyddio dyfeisiau symudol.

Gall: does dim rhaid bod gan riant/gwarcheidwad gyfrif er mwyn i blentyn ddefnyddio’r ap. Ond mae agor cyfrif rhieni yn ffordd wych o gymryd diddordeb yn yr hyn y mae’ch plentyn yn ei wneud, trwy gael newyddion am yr hyn y mae wedi bod yn ei wneud yn y gêm, a syniadau ac awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau y tu hwnt i’r ddyfais ddigidol.

Byddant. Lawrlwythwch y gêm ar eich tabled a dechrau chwarae. Agorwch gyfrif trwy fynd i Dŵr Chwim a dilyn y cyfarwyddiadau. Cewch gofrestru pob plentyn â’i enw chwaraewr ei hunan a’i fersiwn ef/hi o'r gêm. Bob tro y mae un o’r plant yn dymuno chwarae, gall fewngofnodi a chwarae Arwyr Ancora yn ei enw ei hunan.

Pan fyddwch yn chwarae Cwest, mae eicon ‘saib’ (dwy linell unionsyth: ‘II’) yng nghornel dde uchaf y sgrin. Tapiwch hwn a daw dewislen i’r golwg yng nghanol y sgrin: yna, cewch ddewis parhau neu adael y Cwest.

Pan fyddwch yn yr Hyb Creadigol (lle cewch wneud gweddïau a phostio lluniau), Theatr y Saga (lle cewch wylio fideos), yr Ardal Broffiliau (lle cewch addasu’ch cymeriad), a’r Llinell Amser (lle cewch y darnau o’r Beibl), bydd croes ‘X’ yng ngornel dde uchaf y sgrin. Cyffyrddwch â hon i ddychwelyd i ddinas Ancora (y sgrin â’r brif Ddewislen).

Os yw’r symbol saeth crwn ger y gair ‘Llwytho' ar y dde ar waelod y sgrin yn stopio troi’n llwyr, efallai nad oes gan eich dyfais ddigon o RAM (cof hapgyrch) i redeg y gêm. Os oes gêm yn rhewi neu’n crasho, dylai fod modd i chi adfer y gêm yn ddiogel trwy gau’r ap yn llwyr ac yna’i agor eto (fel bod y sblashsgrin â’r logo i'w gweld cyn i chi gael cais i ddewis eich cymeriad). Rhowch wybod i ni os yw’r gêm yn rhewi dro ar ôl tro a phryd yn union (er enghraifft wrth lwytho Cwest neu fynd i ran benodol o Ddinas Ancora).

Nid yw’r cymeriadau na'r hanesion am fyd Ancora’n dod o’r Beibl. Pan fydd chwaraewr yn derbyn cwest i ganfod ‘stori goll’ a dod â hi yn ôl, stori o’r Beibl yw honno.

Mae Arwyr Ancora wedi’i gynllunio i fod yn lle hwyliog a chadarnhaol lle caiff plant fynd i’r afael â’u perthynas â Duw ac â’r Beibl. Mae gan Scripture Union 150 o flynyddoedd o brofiad o helpu plant i gyfarfod â Duw ac ymwneud â’r Beibl mewn ffyrdd sy’n addas ac yn hwylus i blant. Mae’r tîm creadigol y tu ôl i Arwyr Ancora’n cynnwys cynllunwyr gêmau gyda’r gorau yn y byd er mwyn sicrhau bod y gêm yn ddifyr, ynghyd ag awduron, diwinyddion a gweithwyr Cristnogol profiadol iawn.

Mae tîm o ddiwinyddion ac arbenigwyr mewn gweinidogaeth plant wedi creu 'bwa o straeon Beiblaidd’ gyda storïau unigol o fywyd Iesu. Bydd y straeon hyn ar gael i’r chwaraewyr wrth i’r ap gael ei ddiweddaru dros amser.

Caiff pob stori ei chofnodi ar ‘linell amser Beiblaidd’ yn yr ap, er mwyn i’r chwaraewyr gael syniad o’r ffordd y mae’r Beibl yn ffitio gyda’i gilydd.

Dydyn ni yn Scripture Union ddim eisiau i’r gost fod yn rhwystr i unrhyw blentyn a hoffai chwarae Arwyr Ancora ac felly gellir lawrlwytho a chwarae’r ap am ddim. Does dim hysbysebion na dim byd i’w brynu yn yr ap. Mae ‘am ddim’ yn golygu ‘am ddim’!

Rydym yn cymryd diogelwch ar-lein o ddifrif, gan ddilyn y ddeddfwriaeth a’r canllawiau diweddaraf i sicrhau bod y chwaraewyr mor ddiogel ag y bo modd. Wrth gofrestru, caiff y chwaraewyr eu harwain i ddewis enw defnyddiwr sy’n wahanol i’w henw go iawn, i ddewis cyfrinair yn ofalus ac i beidio â’i ddatgelu i neb.

Wrth wneud ‘ffrindiau’, dim ond wrth eu henw defnyddiwr y caiff y chwaraewyr eu nabod a does dim sgwrsio rhydd na chysylltiad rhydd rhwng chwaraewyr. Caiff y chwaraewyr ddewis a ydynt am wneud eu postiadau’n gyhoeddus ar y ffrwd newyddion gymunedol (yn yr Hyb Creadigol, cornel chwith isaf y sgrin); nid yw postiadau cyhoeddus yn cynnwys ysgrifennu rhydd na chynnwys rhydd.

Mae botwm ‘adrodd’ ar gael i’r chwaraewyr bob amser pan fyddant yn rhannu postiadau yn y ffrwd newyddion gymunedol. Dangosir hwn fel baner goch ar bob postiad cyhoeddus.

Pan fydd chwaraewyr yn mynd i’r Hyb Creadigol (cornel chwith isaf y sgrin), cânt gyfle i weld postiadau cyhoeddus chwaraewyr eraill a gallant ddewis eu ‘dilyn’. Yna, maent yn 'ffrindiau’. Bydd y chwaraewr yn gallu gweld enw cymeriad ei ffrind yn y gêm yng ngwahanol ardaloedd Ancora.

Yn yr Hyb Creadigol, gall chwaraewyr greu postiadau mewn ymateb i’r hyn y maent wedi’i ddarganfod yn y gêm, gan ysgrifennu, tynnu llun, a chynnwys sticeri, clipiau sain a/neu ffotograffau.

Os dymunant, gallant wneud ‘postiadau sticeri’ yn gyhoeddus trwy eu postio yn y ffrwd newyddion gymunedol. Yna, gall chwaraewyr eraill weld y postiadau hyn. Yn y ffrwd newyddion gymunedol bydd tîm Arwyr Ancora’n postio newyddion am y gêm hefyd, yn cynnwys cyhoeddiadau am fideos i’w gwylio. Fel rheol, caiff fideos newydd eu rhyddhau ar ddyddiau Mawrth a Iau.

Gall chwaraewyr greu faint bynnag o bostiadau ag y dymunant a’u casglu yn eu Hyb Creadigol eu hunain (cornel chwith isaf y sgrin). Caiff y rhain eu cadw ar eu dyfais a gellir eu dangos a’u rhannu, wyneb yn wyneb, gyda phobl eraill.

Er mwyn diogelwch ar-lein, dim ond ‘postiadau sticeri’ y gellir eu gwneud yn gyhoeddus a’u rhannu yn y ffrwd newyddion gymunedol ar yr ap.

Na. Nid oes hysbysebion ar Arwyr Ancora, ni fydd gofyn iddynt brynu unrhyw beth ac nid oes ‘muriau talu’ cudd. Mae Arwyr Ancora’n cydymffurfio â rheoliadau COPPA (UDA) ar gyfer hysbysebu, diogelwch plant ar lein a diogelu data: www.coppa.org.

Casglu pethau yw un o heriau hwyliog y Cwestau Beiblaidd ac weithiau mae chwaraewyr yn cysylltu â ni yn ymbil am help i ddod o hyd i’r ‘un sydd ar goll’! Wrth gwrs, does gennym ni ddim syniad pa un yw hwnnw! Ond dyma rai awgrymiadau cyffredinol i’ch helpu i chwilio:

  • Wrth chwarae trwy Gwest Beiblaidd, mae’r llwybr yn aml yn mynd i ddau gyfeiriad posibl, sy’n dod at ei gilydd yn nes ymlaen. Efallai y bydd angen i chi ddilyn y ddau lwybr i ddod o hyd i’r eitemau i gyd.
  • Gall eitemau fod wedi’u cuddio o dan fwâu, ar lwyfannau neu mewn tyllau!
  • Pan fydd eich cymeriad yn ‘glanio’ mewn lle newydd, bydd yn wynebu i gyfeiriad neilltuol.
  • Mae bob amser yn werth troi o gwmpas a mynd ychydig ffordd i’r cyfeiriad arall rhag ofn bod eitem ‘y tu ôl i chi’.
  • Pan fydd eich cymeriad yn ‘glanio’ mewn lle newydd, bydd yn wynebu i gyfeiriad neilltuol.
  • Mae bob amser yn werth troi o gwmpas a mynd ychydig ffordd i’r cyfeiriad arall rhag ofn bod eitem ‘y tu ôl i chi’.

‘Cwblhau’r Cwest’ fydd un o’r amcanion bob amser. Amcan arall fydd casglu nifer o ‘belenni’ golau glas wrth i chi ddilyn y gwahanol lwybrau o gwmpas y Cwest.

Gall y trydydd fod yn rhywun, yn rhywbeth neu'n sgrôl guddiedig. Weithiau fe ddigwyddwch ddod ar eu traws wrth chwarae’r gêm. Dro arall bydd raid i chi chwilio mwy – a hyd yn oed fentro o dan y ddaear!

Oes! Mae’r ap ar gael eisoes yn Saesneg (Guardians of Ancora), Cymraeg (Arwyr Ancora), Serbeg (Čuvari Ankore) ac Albaneg (Rojet nga Ankora). Mae’r fersiynau Portiwgaleg (America Ladin) a Tamil yn cael eu datblygu.

Daw’r enw o’r gair Lladin ‘ancora’ sy’n golygu ‘angor’. Mae’n air hen iawn, yn mynd yn ôl trwy’r Lladin a’r Groeg i oes yr Hethiaid! Gall ‘ancora’ olygu ‘cefnogaeth’ neu, weithiau ‘obaith’ hefyd. Mae’r enw’n dod â’r syniadau cadarnhaol hyn i’r gêm ac i ddinas Ancora, lle caiff y chwaraewyr eu cyflwyno i themâu a gwerthoedd cadarnhaol o’r Beibl.

Mae ap Arwyr Ancora yn cynnig gêm, lle caiff plant (tuag 8-11 oed) le diogel, hwyliog a chadarnhaol i ystyried eu perthynas gyda Duw a’r Beibl.

Bwriad gwefan Arwyr Ancora yw cynnig gwybodaeth, cymorth ac adnoddau i oedolion sy’n dod i gysylltiad â’r plant hynny mewn teuluoedd, eglwysi ac ysgolion.

Gallwch! Mae llawer o eglwysi’n defnyddio Arwyr Ancora yn eu hoedfaon, mewn grwpiau plant ac mewn llawer o ffyrdd eraill. Efallai yr hoffech:

greu sesiwn ar gyfer grŵp bore Sul, clwb canol wythnos neu grŵp cell gan ddefnyddio Arwyr Ancora; trefnu ardal ymlacio mewn digwyddiad neu sesiwn; cynnwys Arwyr Ancora mewn ystafell weddi neu fel un o nifer o ardaloedd gweithgareddau y caiff y plant ymweld â nhw; taflunio’r gêm ar sgrin fawr fel y gall pawb fod â rhan yn y chwarae; cynnwys y gêm yn eich cylch rheolaidd o weithgareddau; cynnal digwyddiad ar thema Arwyr Ancora; cynnal clwb gwyliau Arwyr Ancora; cyflwyno gwasanaeth bob oed.

Mae oedolion yn cysylltu â ni weithiau’n dweud yr hoffen nhw chwarae’r gêm cyn ei dangos i’w plant. Mae hynny’n syniad doeth. Mae canllawiau am ddiogelwch plant ar lein yn annog rhieni a gofalwyr i wneud llawer mwy i gadw golwg ar yr hyn y maent yn ei wneud – nid dim ond gydag apiau gêmau ond mewn gêmau eraill, ar y cyfryngau cymdeithasol (mae llawer o blant dan oed yn defnyddio'r rhain) ac ar safleoedd rhannu fideos. Os nad ydych yn gyfarwydd â chwarae gêmau, gobeithio y bydd y nodweddion hyn yn rhoi ffydd i chi yn yr ap: Rydym ni yn Scripture Union yn ystyried ein cyfrifoldeb at blant o ddifri.

Daw Arwyr Ancora gyda 150 o flynyddoedd o arbenigedd gan SU mewn gweithio gyda phlant, archwilio diwinyddol a chynnig adnoddau cenhadol i eglwysi. Cewch ddysgu mwy am Scripture Union yn www.scriptureunion.org.uk. Adeiladwyd Arwyr Ancora gan Dubit Limited, cwmni sy’n arbenigo mewn gêmau plant ac ymchwil: www.dubitlimited.com. Mae Arwyr Ancora’n cydymffurfiio â rheoliadau caeth COPPA (Children's Online Privacy Protection Act of 1998) yn UDA: www.coppa.org/#.

Mae'r gêm wedi ennill gwobrau 'Ap y Flwyddyn 2015’, ‘Defnydd Mwyaf Dyfeisgar o’r Cyfyngau Digidol’, ‘Ap y Flwyddyn 2017’ a ‘Prosiect Plant Gorau 2017’ sy’n rhoi cydnabyddiaeth iddi. Cofiwch, os nad ydych chi wedi arfer â chwarae gêmau, mae’n siŵr bod y plant yn hen lawiau! Beth am eistedd gyda’ch gilydd i ddod i nabod y gêm a’i chwarae? Fel hynny, gallwch rannu’r profiad, gweld beth sy’n digwydd – a chanfod llu o gyfleoedd i sgwrsio’n naturiol am Dduw, y Beibl a straeon am Iesu.