Arwyr Ancora logo
about character

Cei gymryd rhan yn anturiaethau anhygoel y Beibl

tl

Rhedeg, neidio a chwilota

Tyrd i fyd rhyfeddol Ancora a chwarae dy ffordd trwy Gwestau Beiblaidd cyffrous. Caiff yr ap ei ddiweddaru bob ychydig fisoedd gan ddod â straeon y Beibl yn fyw mewn ffyrdd newydd, cyffrous.

tr

Gwrando ar straeon o’r Beibl

Yn llyfrgell y Neuadd Atgofion cei ddysgu mwy am straeon coll y Saga – y straeon o’r Beibl y mae’r Cwestau wedi’u seilio arnyn nhw. Cei chwilio am y straeon cyffrous ar Linell Amser a gwrando arnyn nhw’n cael eu darllen yn uchel.

bl

Chwarae cwisiau cyffrous

Bydd cwisiau ar y Cwestau Beiblaidd rwyt ti wedi’u gwneud – faint wyt ti’n ei gofio am y straeon? Bydd cyfle i gymryd rhan mewn cwisiau personoliaeth hefyd i weld i ba gymeriad o’r Beibl rwyt ti’n debyg.

br

Gwylio’r fideos

Cer i Theatr y Saga a gwylio fideos am bob un o straeon y Beibl – a mwy. Mae fideos newydd yn cael eu hychwanegu bob wythnos!