GOA-Logo

Telerau Defnyddio

Diweddarwyd ddiwethaf: 03 Medi 2018


Gofynnir i chi ddarllen y rhain cyn defnyddio’r wefan hon. Os oes gennych gwestiynau am y Telerau Defnyddio hyn, cysylltwch â ni yma.

Telerau Allweddol

  • Trwy ddefnyddio’r wefan, rydych yn cytuno’n awtomatig i’r Telerau hyn, ein Polis Preifatrwydd a’n Polisi Cwcis.
  • Mae popeth ar ein gwefan yno i chi edrych arno, ei lawrlwytho a/neu ei ddefnyddio yn unig. Ni chewch ei werthu nac esgus mai chi a wnaeth y wefan.
  • Mae unrhyw beth a ddywedwch wrthym (er enghraifft, eich enw a’ch cyfeiriad ebost) yn dod o dan ein Polisi Preifatrwydd. Gofalwch eich bod wedi darllen hwn hefyd cyn defnyddio ein gwefan.
  • Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Gofalwch eich bod wedi darllen ein Polisi Cwcis cyn defnyddio ein gwefan.

Os nad ydych yn cytuno i’r Telerau hyn, rhaid i chi beidio â mynd i’n gwefan na’i defnyddio mewn unrhyw ffordd arall.

Amdanom ni

Scripture Union Cymru a Lloegr ydym ni, elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr (rhif 213422) a chwmni cyfyngedig (rhif 39828). Cewch chwilio am ein statws elusennol. GB 233 473 180 yw ein rhif TAW.

Mae’r brif swyddfa yn Trinity House, Opal Court, Opal Drive, Fox Milne, Milton Keynes MK15 0DF, rhif ffôn +44 (0)1908 856000.

Newidiadau i’r telerau hyn

Gallwn newid, addasu neu ddiweddaru’r Telerau hyn unrhyw bryd, felly dylech ddarllen y dudalen hon yn rheolaidd. Fel uchod, os byddwch yn mynd ymlaen i ddefnyddio’r wefan, cyfrifir eich bod wedi derbyn unrhyw newidiadau i’r Telerau hyn.

Beth y gallwch chi ei wneud

Gallwch ddefnyddio ein gwefan i:

  • ddysgu am ein meddalwedd, Arwyr Ancora, a fydd ar gael ar ffurf ap ar gyfer tabled
  • dysgu am feddalwedd arall a gynigiwn
  • Os cewch broblemau wrth ddefnyddio ein gwefan, ewch i’n tudalen Cwestiynau Cyffredin neu gysylltu â ni yma.

Lawrlwytho ein meddalwedd

Os dewiswch lawrlwytho unrhyw eitemau meddalwedd gennym (am gyfnod prawf neu fel arall), bydd y defnydd a wnewch o’r meddalwedd perthnasol yn cael ei reoli gan delerau trwydded ychwanegol. Gofynnir i chi gytuno i’r telerau trwydded ychwanegol hyn cyn y cewch lawrlwytho’r meddalwedd – darllenwch y rhain yn ofalus.

Ein gwefan ni ydyw

Ni neu ein trwyddedwyr, fel sy’n briodol, sy’n berchen ar y wefan hon a’i chynnwys a’i gwybodaeth (yn cynnwys, heb gyfyngiad, y fformat, y gosodiad, y testun, yr offer, y ffotograffau, y lluniau, y fideos, yr animeiddiadau ac unrhyw gynnwys arall), meddalwedd Arwyr Ancora ac unrhyw eitemau meddalwedd eraill neu ddeunydd arall (graffig, clyweledol neu arall) sydd ar gael o’n gwefan.

Caiff yr holl ddeunyddiau hyn eu diogelu gan ddeddfau hawlfraint a deddfau eiddo deallusol eraill. Dim ond at ddibenion preifat ac anfasnachol (neu ddibenion eraill a ganiateir o dan delerau trwydded ar wahân) y cewch ddefnyddio unrhyw beth sy'n eiddo i ni. Rydym yn cadw ein holl hawliau mewn perthynas â’r wefan a’i chynnwys, meddalwedd Arwyr Ancora a’r holl eitemau meddalwedd eraill neu unrhyw gynnwys graffig neu glyweledol arall sydd ar gael o’n gwefan. Cawn drosglwyddo ein hawliau a’n rhwymedigaethau i unrhyw un heb eich caniatâd chi.

Dydi pethau ddim bob amser yn gweithio

Weithiau, efallai na fydd y wefan neu ryw ran ohoni, neu ei chynnwys/nodweddion ar gael oherwydd gwaith cynnal a chadw, diffyg neu am ryw reswm arall. Nid ydym yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am hyn, nac am unrhyw oedi, wallau, doriadau neu ddiffygion y dewch ar eu traws. Ni allwn wneud unrhyw addewidion ynghylch perfformiad y wefan.

Firysau

Nid ydym yn gwarantu y bydd ein gwefan yn ddiogel nac yn rhydd rhag bygiau neu firysau ond fe wnawn ymdrechion rhesymol i ddefnyddio gwirwyr firysau cyfredol er mwyn sicrhau bod cyn lleied o berygl ag y bo modd o gyflwyno bygiau neu firysau i’ch systemau chi.

Chi sy’n gyfrifol am ffurfweddu’ch technoleg gwybodaeth, eich rhaglenni cyfrifiadurol a’ch llwyfan er mwyn defnyddio ein gwefan ni ac unrhyw ddeunyddiau neu feddalwedd sydd arni. Dylech ddefnyddio’ch meddalwedd gwrth-firysau eich hunan.

Rhaid i chi beidio â chamddefnyddio ein gwefan trwy gyflwyno, yn ymwybodol, firysau, firysau Ceffyl Pren Troea, mwydod, bomiau rhesymeg nac unrhyw ddeunydd arall sy’n faleisys neu’n dechnolegol niweidiol. Rhaid i chi beidio â cheisio cael mynediad heb awdurdod i'n gwefan, y gweinyddion lle cedwir ein gwefan nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy'n gysylltiedig â'n gwefan. Rhaid i chi beidio ag ymosod ar ein gwefan trwy ymosodiad atal gwasanaeth nac ymosodiad atal gwasanaeth gwasgaredig.

Trwy dorri’r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Gallwn hysbysu awdurdodau perthnasol gorfodi’r gyfraith os digwydd hyn a byddwn yn cydweithredu â’r awdurdodau hynny trwy ddweud wrthynt pwy ydych. Os byddwch yn torri’r ddarpariaeth felly, daw eich hawl i ddefnyddio ein gwefan i ben ar unwaith.

Plant a phersonau dan oed

Os yw rhieni neu warcheidwaid yn caniatáu i bersonau dan oed ddefnyddio’r wefan, rydym yn eu cymell i roi gwybodaeth iddynt am ddiogelwch ar-lein. Chi sy’n gyfan gwbl gyfrifol am benderfynu a yw cynnwys y wefan yn addas ai peidio ar gyfer y plentyn yr ydych yn caniatáu iddo/iddi fynd i’r wefan.

Ein hatebolrwydd i chi

Darperir y wefan ‘fel y mae’ ac nid ydym yn atebol am unrhyw ddifrod a achosir gan wallau neu hepgoriadau mewn unrhyw wybodaeth, cyfarwyddiadau neu sgriptiau a ddarperir i chi mewn cysylltiad â’ch defnydd chi o’r wefan. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw fethiannau, colledion na difrod sy’n deillio o’ch defnydd chi o’r wefan ac eithrio fel y nodir isod.

Mae pob addewid, sylw, amod ac unrhyw delerau eraill o unrhyw fath o gwbl sydd ymhlyg mewn statud neu gyfraith gwlad yn cael eu heithrio o’n cytundeb ni â chi ac o’r Telerau hyn i’r graddau mwyaf posibl a ganiateir gan y gyfraith gymwys.

Ni fydd dim yn ein Telerau yn cyfyngu ar atebolrwydd nac yn eithrio atebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol yn deillio o’n hesgeuluster, twyll nac unrhyw atebolrwydd arall na all cyfraith gwlad ei eithrio na chyfyngu arno, nac yn effeithio ar unrhyw hawliau sydd gennych chi fel defnyddiwr.

Ni fydd Scripture Union (na’i weithwyr, ei asiantau na’i is-gontractwyr, nac aelodau o’i grŵp na thrydydd partïon sy’n gysylltiedig â’r grŵp) yn atebol i chi o dan unrhyw amgylchiadau am unrhyw gostau, iawndal, hawliadau, colled ganlyniadol na cholled anuniongyrchol wirioneddol neu honedig, sut bynnag y maent yn codi, a ddioddefwch chi, yn cynnwys colli elw, colli neu lygru data, colli cynilion, busnes neu gyfle, colli enw da neu unrhyw fath arall o golled economaidd ond heb fod yn gyfyngedig iddynt.

 

Rhoi dolen i’n gwefan ni

Cewch roi dolen i'n gwefan ni, ar yr amod eich bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n deg ac yn gyfreithlon ac nad yw’n niweidio ein henw da nac yn cymryd mantais arno.

Rhaid i chi beidio â rhoi dolen na gwneud dim mewn ffordd sy’n awgrymu unrhyw fath o gysylltiad, cymeradwyaeth neu gefnogaeth ar ein rhan ni lle nad yw hynny'n bodoli.

Rydym yn cadw’r hawl i dynnu’r caniatâd i roi dolen yn ôl heb rybudd. Os dymunwch wneud unrhyw ddefnydd o gynnwys ein gwefan ac eithrio’r hyn a nodir uchod, gofynnir i chi gysylltu â ni.

Gwefannau pobl eraill

Weithiau, bydd y wefan yn rhannu dolenni neu’n eich cyfeirio at wefannau pobl eraill. Nid yw’r gwefannau hyn o dan ein rheolaeth ni ac nid ydym yn gyfrifol am eu cynnwys na’u polisïau (nac yn eu cymeradwyo). Eich cyfrifoldeb chi yw defnyddio’r gwefannau hyn, yn cynnwys prynu unrhyw beth trwyddynt.

Yn olaf…

Caiff y Telerau hyn ac unrhyw anghydfodau ynglŷn â nhw eu rheoli gan gyfraith gwlad a bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth unigryw ynghylch unrhyw hawliad, anghydfod neu fater sy’n ymwneud â’r Telerau hyn neu’r wefan.

Cysylltu â ni

I gysylltu â ni, gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon neu ebostio info@guardiansofancora.com.