GOA-Logo

Hysbysiad Preifatrwydd

Diweddarwyd ddiwethaf: 03 Medi 2018


Mae Scripture Union (Cymru a Lloegr), dyfeiswyr Arwyr Ancora, wedi ymrwymo i gadw’ch data’n ddiogel. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn esbonio sut, pryd a pham rydym yn casglu data oddi wrthych ac i beth rydym yn ei ddefnyddio.

Pwy ydym ni

Elusen Gristnogol sy’n gweithio i greu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddod i nabod y Beibl, ymateb i Iesu a thyfu mewn ffydd yw Scripture Union. I gael gwybod mwy am ein gwaith, ewch i’n gwefan www.scriptureunion.org.uk.

Mae Scripture Union wedi’i gofrestru’n elusen yng Nghymru a Lloegr (rhif 213422) ac mae hefyd wedi’i gofrestru’n gwmni cyfyngedig trwy warant (rhif 00039828). At ddibenion yr hysbysiad hwn, mae ‘ni’ ac ‘ein’ yn cyfeirio at Scripture Union (Cymru a Lloegr), dyfeiswyr Arwyr Ancora.

Diogelu data

Wrth gynnal ein gweithgareddau o ddydd i ddydd, rydym yn prosesu ac yn storio manylion personol gan ein cefnogwyr, ein cwsmeriaid, ein gwirfoddolwyr, ein gwesteion, ein contractwyr a’n gweithwyr. Felly, mae’n ofynnol i ni lynu at ofynion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, Mai 2018 (y GDPR).

Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau o ddifrif ac yn sicrhau bod y manylion personol a gawn yn cael eu dal, eu defnyddio, eu trosglwyddo a’u prosesu fel arall yn unol â’r rheoliadau hyn ac â’r holl reoliadau diogelu data perthnasol eraill yn cynnwys y Rheoliadau Preifatrwydd Electronig ond heb fod yn gyfyngedig iddynt.

Rydym hefyd yn dilyn canllawiau’r Rheoleiddiwr Codi Arian ar drin rhoddwyr yn deg. Credwn fod hyn yn helpu ein staff a’r bobl sy’n codi arian i ni ac sy’n dod i gysylltiad â’n cefnogwyr i gynnig gofal o safon uchel i gwsmeriaid, gan sicrhau bod unrhyw un sy’n cyfrannu at yr elusen mewn sefyllfa i wneud penderfyniad rhydd a gwybodus.

Rydym wedi’n cofrestru gyda’r Rheoleiddiwr Codi Arian ac rydym yn ymdrechu i gyrraedd y safonau uchel sy’n cael eu hyrwyddo gan eu Cod Ymarfer ar Godi Arian.

Os hoffech wybodaeth fanylach, mae ein polisi preifatrwydd i’w weld yn llawn [yma], yn Saesneg yn unig.